Mae British Airways am gael gwared â 400 o swyddi ond mae’r cwmni awyrennau wedi pwysleisio na fydd yn gwneud diswyddiadau gorfodol.
Dywedodd llefarydd ar ran BA eu bod wedi cychwyn ar gyfnod o ymgynghori gydag undeb Unite ynglŷn â’r posibilrwydd o gynnig diswyddiadau gwirfoddol i 400 o staff ar eu hawyrennau.
Mae BA yn cyflogi hyd at 14,000 o staff ar eu hawyrennau.