Mae cynghorydd sir yn dweud fod teimladau “eithriadol o gryf” yn erbyn llwybr ffordd osgoi ger Caernarfon sy’n cael ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru.
Mae Pwyllgor Craffu Cymunedau Gwynedd yn cwrdd y bore ma er mwyn trafod ffordd osgoi Bontnewydd a dywedodd Siôn Jones wrth Golwg360 fod trigolion Bethel yn gwrthwynebu’r ‘ffordd borffor’ a fydd yn osgoi Bontnewydd a Chaernarfon ac yn ymuno gyda’r A487 ger Bangor.
“Bydd hi’n treisio ffermydd a busnesau ac yn rhannu Bethel a’r Felinheli,” meddai’r cynghorydd Llafur dros Fethel.
Dywed Siôn Jones y byddai’r ‘ffordd felen’, a fydd yn ymuno gyda’r heol yn nes at Gaernarfon, ger Plas Menai, yn “arbed bron i £10m ac yn arbed bywydau achos bydd llai o ddamweiniau angheuol.”
“Mae gynnon ni ffeithiau technegol o blaid y ffordd felen a byddwn ni yn eu cyflwyno heddiw i’r Pwyllgor,” meddai Siôn Jones.
“Does yna neb yn erbyn y ffordd felen.
“Er mai gan y Cynulliad mae’r gair olaf ar y mater dwi’n credu fod barn yr awdurdod lleol yn hollbwysig a dyma ein cyfle ni.”
Mae’r Pwyllgor Craffu yn clywed tystiolaeth heddiw a bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod y mater.
Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, ac maen nhw’n bwriadu dechrau’r gwaith ar y ffordd osgoi erbyn diwedd 2015.