Gall anffyddwyr gael yr hawl i ymuno a’r Sgowtiaid am y tro cyntaf ers 105 o flynyddoedd.

Mae’r symudiad, sy’n cael ei arwain gan yr anturiaethwr Bear Grylls, yn lansio ymgynghoriad ynglŷn â chyflwyno llw gwahanol sydd ddim yn cyfeirio at Dduw. Ar hyn o bryd mae’r aelodau yn tyngu llw i  wneud eu “dyletswydd i Dduw”.

Ers 40 mlynedd, mae gwahanol fersiynau wedi bodoli ar gyfer aelodau o wahanol grwpiau ffydd fel Mwslemiaid, Hindŵiaid, a Bwdhyddion, ond dyma’r tro cyntaf i’r Sgowtiaid ystyried addasu’r llw ar gyfer anffyddwyr.