Mae gweinydd cwmni awyrennau Cathay Pacific wedi gadael ei swydd ar ôl iddi ysgrifennu ar ei chyfrif Facebook ei bod eisiau taflu coffi dros un o’r teithwyr.

Roedd y gweinydd wedi achosi cynnwrf ar wefannau cymdeithasol yng Ngwlad Thai wythnos ddiwethaf ar ôl iddi bostio sylwadau sarhaus am ferch y cyn brif weinidog Thaksin Shinawatra.

Dywedodd ar Facebook ei bod wedi gofyn “a oedd yn iawn i daflu rhywbeth ar Paetongtarn Shinawatra” yn ystod y daith o Bangkok i Hong Kong ar 25 Tachwedd.

Mae Cathay Pacific wedi cyhoeddi ar ei gyfrif Facebook yng Ngwlad Thai nad yw’r gweinydd bellach yn cael ei chyflogi ganddyn nhw. Dywedodd hi ei bod wedi ymddiswyddo er mwyn cymryd cyfrifoldeb am ei sylwadau.

Mae’r miliwnydd Thaksin Shinawatra yn gyn berchennog clwb peldroed Manchester City ac yn ffigwr dadleuol yng ngwleidyddiaeth Gwlad Thai. Ei chwaer Yingluck yw prif weinidog presennol y wlad.