Mae’r Llywodraeth yn symud gam yn nes at ddeddfu ar roi organau trwy gyflwyno Bil Trawsblannu Dynol gerbron y Cynulliad heddiw.
Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths, wedi bod yn ymgynghori dros yr haf ar fesur drafft a heddiw bydd y Cynulliad yn dechrau’r broses ffurfiol o ystyried y Bil.
Os caiff y Bil ei basio fe fydd pobol yn cael eu cynnwys yn awtomatig ar restr rhoi organau, oni bai eu bod nhw’n datgan eu gwrthwynebiad i hynny.
Mae’r cynlluniau wedi bod yn ddadleuol, ac mae amheuon wedi eu codi gan gyrff megis Cymdeithas y Cyfreithwyr ynglŷn â hawl y teulu i wrthod rhoi organau perthynas a fu farw.
Ond mae’r Llywodraeth heddiw yn lansio ymgyrch gyhoeddusrwydd ac yn cyhoeddi dau adolygiad sy’n rhoi tystiolaeth ryngwladol o’r modd mae systemau meddal o optio allan o roi organau yn gweithio, a rôl perthnasau yn y broses hon.
Barn y Gweinidog Iechyd
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths fod “rhoi organau yn arbed ac yn gwella bywydau.”
“Mae gan y teulu rôl allweddol o ran gwneud y penderfyniad terfynol ar yr hyn sy’n digwydd i organau eu perthynas,” meddai Lesley Griffiths.
“Mae dymuniadau’r sawl a fu farw yn hollbwysig ac mae mwyafrif helaeth pobl Cymru am weld ystyriaeth yn cael ei rhoi i’w dymuniad.
“Am y rheswm hwnnw, fel sy’n digwydd nawr, nid oes gan y teulu unrhyw hawl cyfreithiol i roi feto arno. Ond, yn ymarferol, ni fyddai clinigydd byth yn ychwanegu at eu gofid drwy fynnu rhoi’r organau.
“Yn ôl tystiolaeth, y prif reswm pam bod teuluoedd yn gwrthod cytuno i roi organau yw nad ydyn nhw’n gwybod sut roedd eu hanwyliaid yn teimlo ynghylch rhoi organau. Rydym felly’n lansio’r ymgyrch ‘Calon i Galon’ er mwyn annog pobl i rannu eu dymuniadau gyda’r rhai o’u cwmpas.
“O dan system o gydsyniad sy’n cael ei hystyried, mae gan deuluoedd y sicrwydd y gallai eu hanwyliaid fod wedi optio allan o roi organau yn ystod eu hoes.”
Dywedodd Lesley Griffiths fod 379 o bobl yng Nghymru yn aros am drawsblaniad ar hyn o bryd ac mai deddfu ar y mater yw’r ffordd orau o’u helpu nhw.