Mae gwasanaethau trên drwy Dwnnel y Sianel wedi cael eu canslo prynhawn ma ar ol i lori ar drên fynd ar dân.
Cafodd dwsinau o yrrwyr loriau eu hachub ar ol i’r tân ddechrau ar lori oedd ar drên yn y twnnel.
Roedd y digwyddiad yn golygu bod y twnnel ar gau i holl drenau o 1.30yh.
Cafodd y tren ei yrru allan o’r twnnel ac fe lwyddodd y gwasanaethau brys yn Ffrainc i ddiffodd y tân. Ni chafodd unrhyw un eu hanafu.
Yn y cyfamser nid yw trenau Eurotunnel na Eurostar, sy’n cynnal gwasanaeth rhwng Llundain a Paris a Brwsel, yn gallu mynd drwy’r twnnel.
Maen nhw’n gobeithio y bydd y twnnel yn ail-agor yn ddiweddarach pnawn ma.
Dywedodd llefarydd ar ran Eurostar: “Nid oes un o’n trenau ni’n sownd yn y twnnel ond nid ydym yn gallu mynd drwy’r twnnel ar hyn o bryd.”
Dywedodd llefarydd Eurotunnel bod rhywfaint o fwg ar ol yn y twnnel ond maen nhw’n aros i system awyru’r twnnel gael gwared a’r mwg cyn bod gwasanaethau’n ail-gychwyn.