Yr Arglwydd Ustus Leveson

Wrth gyhoeddi ei adroddiad heddiw, mae’r Arglwydd Ustus Leveson wedi

condemnio degawdau o ymddygiad “gwarthus” gan y wasg wrth iddo alw am gorff annibynnol newydd i reoleiddio papurau newydd.

Mewn adroddiad damniol dywedodd bod y wasg wedi “anwybyddu ei chod ymddygiad ei hun” gan “achosi llanast ym mywydau pobl ddiniwed”. Dywedodd y byddai’r system newydd yn cynnal safonau a diogelu hawliau pobl.

Nid oes gorfodaeth ar bapurau newydd i ymuno a’r corff newydd ond fe fyddai cosbau llymach yn cael eu cyflwyno petai’r llysoedd yn dyfarnu eu bod wedi enllibio pobl neu dorri rheolau sifil.

Dywedodd bod angen sicrhau’r cyhoedd bod y corff yn hollol annibynnol ond dywedodd na ellir  ei  ddisgrifio fel rheolaeth statudol. Fe fydd yn cael ei gefnogi gan ddeddfwriaeth, ond ni fydd San Steffan yn cael rheolaeth dros y diwydiant, meddai.

Mae hefyd wedi argymell rhoi rhagor o gyfrifoldeb i Ofcom, a fyddai’n dod yn reoleiddwr “wrth gefn” petai’r diwydiant yn gwrthod cydymffurfio a’r corff newydd.

Gwleidyddion a’r wasg yn ‘rhy glos’

Yn yr adroddiad, sydd dros 2,000 o dudalennau o hyd – mae Leveson hefyd wedi bod yn “feirniadol iawn, iawn” o’r berthynas rhwng gwleidyddion a’r wasg dros yr 20 mlynedd ddiwethaf gan ddweud eu bod wedi bod yn “rhy glos” ac nad oedd hynny wedi bod er budd y cyhoedd.

Dywedodd hefyd nad oedd tystiolaeth bod Jeremy Hunt wedi dangos ffafriaeth tuag at News Corp yn eu hymdrech i brynu BSkyB pan oedd yn  Ysgrifennydd Diwylliant, ond cafodd Hunt ei feirniadu am fethu a goruchwylio’r cyswllt rhwng ei gyn ymgynghorydd Adam Smith, a lobiwr News Corp Fred Michel.

Mae’r adroddiad hefyd wedi dweud “nad oes tystiolaeth o lygredd pellgyrhaeddol o fewn yr heddlu” ond mae’r berthynas rhwng cyn Ddirpwy Gomisiynydd Heddlu Llundain John Yates a News International wedi cael ei feirniadu.

Mae’r adroddiad yn debygol o fod yn dipyn o gur pen i David Cameron wrth iddo geisio cael consensws rhyngbleidiol.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog roi ei ymateb i’r adroddiad mewn datganiad i’r Senedd prynhawn ma.

Ond mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg eisoes wedi awgrymu nad ydyn nhw’n cytuno ar y mater drwy gyhoeddi y bydd yn gwneud datganiad ar wahân ar ôl David Cameron.