Mae 1,400 o foch daear wedi cael eu brechu hyd yma mewn ardal weithredu yng ngogledd Sir Benfro meddai Gweinidog Amaeth Cymru.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw’n gwybod faint o foch daear sydd o fewn yr ardal weithredu rhwng Trefdraeth, Aberteifi a Llanfyrnach.
Cyhoeddodd John Griffiths y cynllun brechu ym mis Mawrth er mwyn ceisio atal diciáu mewn gwartheg, yn groes i ddymuniad yr undebau amaeth a oedd am weld moch daear yn cael eu difa er mwyn rheoli’r clwyf.
Dechreuodd y brechu ym mis Mai a daeth y rhaglen i ben am eleni ar ddiwedd mis Hydref.
“Mae ffigurau cynnar yn dangos ein bod ni wedi dal a brechu dros 1,400 o foch daear o fewn yr ardal weithredu ddwys,” meddai John Griffiths.
“Mae ein rhaglen frechu wedi caniatáu i Gymru weithredu’n gyflym er mwyn datblygu elfen o imiwnedd i TB o fewn y boblogaeth moch daear yn yr ardal weithredu.
“Credwn y dylai hyn leihau’r peryg fod TB yn cael ei drosglwyddo o foch daear i wartheg, a chyfrannu at gael gwared ar TB mewn gwartheg gydag amser,” meddai’r Gweinidog Amaeth.
Mae’r brechu yn rhan o raglen pum mlynedd o hyd o fewn yr ardal weithredu ddwys, ac mae’r llywodraeth yn ystyried ymestyn y rhaglen i ardaloedd eraill.
Bydd adroddiad ar flwyddyn gyntaf y brechu yn Sir Benfro yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr.