Mae Arweinwyr y Ceidwadwyr yn y Cynulliad yn galw am drafodaethau traws-bleidiol yng Nghymru ar adroddiad yr Ustus Leveson.
Mae Andrew RT Davies eisiau anfon llythyr at David Cameron yn gosod safbwynt y Cynulliad ar adroddiad Leveson ar y wasg, ac mae wedi cysylltu ag arweinwyr y pedair plaid yng Nghymru yn galw am drafodaeth.
“Ni allwn ni danbrisio pwysigrwydd yr adroddiad yma i ddyfodol y wasg Gymreig,” meddai Andrew RT Davies.
“Mae hwn yn gyfle pwysig i drafod canfyddiadau Leveson, rheoleiddio, a dyfodol y wasg Gymreig,” meddai.
Mae cyn-is-olygydd The Sun Online wedi dweud fod Andrew RT Davies yn “hollol gywir” i fynnu cael trafodaeth Gymreig ar yr adroddiad.
“Mae unrhyw broblem gyda’r wasg yn Llundain yn broblem i Gymru hefyd achos maen nhw’n cael eu gwerthu yma,” meddai Marc Webber.
“Ro’n i’n siomedig gyda thystiolaeth Carwyn Jones i Leveson achos dywedodd e fod y berthynas rhwng y llywodraeth a’r wasg yng Nghymru yn dda iawn, sy’n awgrymu bod y wasg yng Nghymru ddim yn gofyn digon o gwestiynau am waith y llywodraeth.”
Corff annibynnol
Dywedodd Marc Webber nad yw am weld llywodraeth yn deddfu ar y wasg ac yn creu eu corff rheoleiddio eu hunain.
“Mae pobol yn Fleet Street yn gwybod mai dyma eu cyfle olaf nhw. Mae’r gyfraith eisoes yn diogelu pobol rhag ymyrraeth ac ni fydd corff rheoleiddio yn fwy effeithiol na’r drefn gyfreithiol sy’n bod yn barod.
“Mae pawb yn derbyn nad yw Comisiwn Cwynion y Wasg yn gweithio. Mae angen corff yn ei le sy’n annibynnol o’r llywodraeth ac sydd ddim jyst yn cynnwys pobol dda a chyfiawn ar gwango arall. Mae angen pobol hefyd sy’n deall gwaith newyddiadurwyr,” meddai Marc Webber.
AC yn ymateb i gynnig Andrew RT
Mae Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ogledd Cymru, Aled Roberts, yn cefnogi sefydlu corff annibynnol i reoleiddio gwaith y wasg.
“Mae’r cyhoedd a gwleidyddion o blaid gwasg rydd ond pan maen nhw’n ymddwyn yn anghyfreithlon mae angen i’r llywodraeth ymnyrryd,” meddai.
Wrth ymateb i gynnig Andrew RT Davies am drafodaeth, dywedodd Aled Roberts ei fod wastad yn barod i gyd-weithio gyda phleidiau eraill yn y Cynulliad ond nad yw adroddiad Leveson yn disgyn o fewn dyletswyddau’r Cynulliad.
“Mater i San Steffan ydy o yn y pen draw a dwi ddim yn gwybod faint o effaith gaiff anfon llythyr at Cameron.
“Mae’n briodol fod ni’n gosod barn Gymreig ar y pwnc ond mae peryg bod gormod o drafod a dim digon o weithredu,” meddai.