Llifogydd Llanelwy
Mae cannoedd o bobl yn dal i aros i gael mynd yn ôl i’w cartrefi yn dilyn y llifogydd yn Sir Ddinbych ddydd Mawrth.

Cafodd dros 400 o gartrefi eu difrodi yn y llifogydd yn Llanelwy a tua 100 ar Stad Glasdir yn Rhuthun a Llanfairtalhaiarn.

Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal heddiw ar gorff Margaret Hughes, 91, fu farw yn y llifogydd yn Llanelwy.

Cafwyd hyd i’w chorff yn ei chartref yn Nhai’r Felin yn y ddinas bnawn dydd Mawrth wrth i’r heddlu wneud ymholiadau o dy i dy. Roedd disgwyl iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 92 oed heddiw.

Cafodd cwest ei agor a’i ohirio i’w marwolaeth ddoe ond dywed Heddlu’r Gogledd nad ydyn nhw’n trin ei marwolaeth fel un amheus.

Yn y cyfamser fe fydd mart da byw Llanelwy yn cael ei gynnal ym marchnad Rhuthun heddiw gan fod y mart wedi ei ddifrodi yn y llifogydd.

Asesu’r A55

Mae’r Gweinidog Amgylchedd John Griffiths yn ymweld a’r ardal heddiw.  Dywedodd ei fod wedi rhoi cyfarwyddyd i Asiantaeth  yr Amgylchedd weithio gyda swyddogion trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd Cymru i asesu gwytnwch yr A55 yn dilyn y trafferthion yn ystod y llifogydd.

Bydd hefyd yn adolygu materion eraill fel gallu draenio priffyrdd, trefn cynnal a chadw ac archwilio, llwybrau gwyriad a chyfathrebu, meddai.

Dywedodd: “Rydym eisoes wedi cychwyn rhoi’r gwersi a ddysgwyd o lifogydd yr haf ar waith, ac fe fyddwn yn ehangu’r rhaglen honno i gynnwys y gwersi a ddysgwyd yn ystod y penwythnos hwn. Yn y cyfamser, dylai pob un ohonom ystyried ein trefniadau ein hunain.  Cofrestrwch gyda gwasanaeth uniongyrchol y Llinell Rybuddion Llifogydd, ystyriwch beth sydd angen ei wneud i amddiffyn eich cartref a gwrandewch ar gyngor y gwasanaethau brys ac Asiantaeth yr Amgylchedd.”