Mae o leiaf 30 o bobl wedi eu lladd a mwy na 110 wedi eu hanafu yn dilyn dau ymosodiad bom ar ddwy ddinas yn ne Baghdad, meddai heddlu Irac heddiw.
Dywedodd swyddog yr heddlu bod ffrwydradau mewn ardal brysur yn ninas Hillah wedi lladd o leiaf 24 o bobl ac anafu 90.
Fe ddechreuodd yr ymosodiadau pan ffrwydrodd bom ar ochr ffordd ac yna fe ffrwydrodd ail fom mewn car.
Roedd bom car yn ninas Karbala oriau’n gynt wedi lladd 6 ac anafu 20.