Andy Coulson
Fe fydd cyn Brif Weithredwraig News International a chyn Swyddog Gwybodaeth David Cameron o flaen llys heddiw ar gyhuddiadau’n ymwneud â rhoi arian am wybodaeth i swyddogion cyhoeddus.
Maen nhw ymhlith pump o bobol a fydd o flaen Llys Ynadon Westminster pan fydd yr achos yn debyg o gael ei gyfeirio at Lys y Goron.
Mae Andy Coulson, cyn olygydd y News of the World, a aeth wedyn yn swyddog gwybodaeth i David Cameron, a chyn Ohebydd Brenhinol y papur, Clive Goodman, yn wynebu’r un dau gyhuddiad.
Mae’r rheiny’n cynnwys cynllwynio i dalu i swyddog cyhoeddus am wybodaeth am y teulu brenhinol, gan gynnwys eu llyfr rhifau ffôn.
Mae Rebekah Brooks, 44, cyn bennaeth y cwmni papur newydd ac un o ffrindiau agos Prif Weinidog Prydain, a John Kay, prif ohebydd y Sun gynt, yn cael eu cyhuddo o gynllwynio i dalu am wybodaeth i un o swyddogion y Weinyddiaeth Amddiffyn.