Mahmoud Abbas
Mae disgwyl  y bydd y Cenhedloedd Unedig yn pleidleisio heddiw o blaid cydnabod gwlad annibynnol i’r Palestiniaid.

Hynny er gwaetha’ ymgais funud ola’ gan yr Unol Daleithiau i atal y penderfyniad sy’n debyg o gael cefnogaeth gan fwyafrif llethol y gwledydd yng Nghynulliad Cyffredinol y corff rhyngwladol.

Mae Washington wedi addo y bydd yr Arlywydd Barack Obama yn ail afael yn y gwaith o chwilio am heddwch rhwng Palestina ac Israel – os bydd Arlywydd Palestina, Mahmoud Abbas, yn rhoi’r gorau i alw am gydnabyddiaeth.

Maen nhw’n ymateb i wrthwynebiad Israel i’r symudiad.

Mae Ysgrifennydd Tramor Prydain, William Hague, wedi dweud y byddai yntau’n fodlon cydnabod Palestina, ar yr amod ei bod yn ailddechrau trafod ar unwaith gydag Israel.