Fe fydd Mesur Ynni newydd yn cael ei gyhoeddi heddiw i fuddsoddi llawer rhagor mewn ynni gwyrdd a cheisio lleihau’r galw am drydan.
Er y bydd rhaid i deuluoedd dalu bron £100 yn rhagor bob blwyddyn i gefnogi ynni gwyrdd, mae’r Ysgrifennydd Ynni yn mynnu y byddan nhw’n arbed arian yn y pen draw.
Roedd yna ddadlau mawr o fewn Llywodraeth y Glymblaid am y mesur, sy’n anelu at adnewyddu systemau ynni gwledydd Prydain – ar gost o £110 biliwn tros y blynyddoedd nesa’.
Y gred yw fod y Canghellor, George Osborne, er enghraifft, eisiau i’r pwyslais fod ar ddatblygu gorsafoedd trydan o nwy.
Treblu’r arian i ynni gwyrdd
Fe fydd tair gwaith mwy o fuddsoddi mewn ynni gwyrdd – gan gynnwys ffermydd gwynt – gyda’r cyfanswm yn codi o £2.3 biliwn i £7.6 biliwn.
Ond, yn ôl yr Ysgrifennydd Ynni, Ed Davey, fe fydd torri ar y galw am ynni’n golygu y gallai biliau fod yn is erbyn 2020.
Mae gwaith ymchwil gan ei adran yn awgrymu bod modd gostwng y galw am drydan o chwarter erbyn 2030.
Meddai’r Ysgrifennydd
“Mae Llywodraeth y Glymblaid yn hollol benderfynol i dorri biliau ynni i gwsmeriaid, i ostwng costau i fusnesau ac i dorri ar nwyon,” meddai Ed Davey.
“Rhaid i ni sicrhau bod ein cyflenwad ynni’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif ac, mewn byd lle mae prisiau nwy’n codi, rhaid i ni gael ynni i’n tai a’n busnesau mewn ffordd fwy effeithiol.”