Jack Williams
Mae mam llanc a grogodd ei hun chwe wythnos ar ôl i’w dad wneud yr un peth wedi galw am newid mewn trefniadau gofal.
Yn ôl Rachel Williams, fe ddylai’r awdurdodau allu ymyrryd hyd yn oed pan fydd pobol ifanc wedi croesi’r 16 oed.
Ac mae’n dweud ei bod yn teimlo wedi “ei siomi” gan y gwasanaethau gofal – roedd yr achos yn “drychineb o’r dechrau i’r diwedd,” meddai.
Marwolaeth mab a gŵr
Roedd hi’n siarad gyda’r BBC ar ôl adroddiadau ddoe am farwolaeth ei gŵr a’i mab yn yr un goedwig ger Casnewydd.
Roedd yr adroddiad i farwolaeth Jack Williams, 16 oed, wedi beirniadu’r trefniadau gofal plant a phobol ifanc yn yr ardal am fethu â sylweddoli maint gofid y mab ar ôl marwolaeth y tad ac yn condemnio asiantaethau am fethu â rhannu gwybodaeth.
Roedd hynny’n cynnwys tystiolaeth ei fod wedi ceisio anafu ei hun yn y cyfnod cyn ei farwolaeth.
Y cefndir
Roedd adroddiad i achos y tad, Darren Williams, wedi beirniadu’r heddlu – roedd y dyn 43 oed ar fechnïaeth pan aeth i salon trin gwallt a saethu ei wraig yn ei choes, cyn ei grogi ei hun.
Yn ôl Rachel Williams, doedd y gwasanaethau ddim wedi ymateb er bod Jack yn troi “o fod yn fab cariadus i fachgen nad o’n i’n gallu ei nabod”.
Roedd y gwasanaethau cymdeithasol wedi dweud wrthi, meddai, na fedran nhw ymyrryd yn yr achos gan fod Jack Williams tros 16 oed.
“Fe ddylai’r oed gael ei newid,” meddai Rachel Williams. “Dyw 18 oed ddim yn oed addas i wneud rhai penderfyniadau.”