Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Fe fydd rhaid i Fwrdd Iechyd dalu £5,000 i deulu gwraig oedrannus am fethu â rhoi triniaeth a allai fod wedi achub ei bywyd.
Fe benderfynodd yr Ombwdsman Iechyd fod Bwrdd Iechyd Bro Taf ar fai tros farwolaeth Lilian Yates o Donysguboriau ger Llantrisant ym mis Mai 2010.
Er bod nyrs wedi cymryd prawf a hwnnw wedi dangos y peryg o thrombosis, mae adroddiad yr Ombwdsman yn dweud nad oedd hynny wedi’i ystyried gan feddyg nac arbenigydd.
O ganlyniad, roedd Lilian Yates wedi ei hanfon adre’ o Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, ond fe fu farw o fewn deuddydd.
Yn ôl yr adroddiad gan Gyfarwyddwraig Ymchwiliadau’r Ombwdsman, Elizabeth Thomas, fe fyddai triniaeth bryd hynny wedi gallu achub ei bywyd.
Y canlyniadau
Yn ogystal ag iawndal ac ymddiheuriad, mae’r adroddiad yn dweud y dylai’r Bwrdd arolygu ddadansoddi’r gofal a gafodd ei roi a chynnal awdit o’r ffordd y mae cofnodion nyrsus yn cael eu cadw.
Ac oherwydd “difrifoldeb” y casgliadau, fe fydd y corff sy’n arolygu iechyd yng Nghymru yn cael gwybod er mwyn ystyried hynny wrth gynnal archwiliadau.