Yr Arglwydd Ustus Leveson
Fe fydd adroddiad hir-ddisgwyliedig yr Arglwydd Ustus Leveson i safonau’r wasg yn cael ei gyhoeddi prynhawn ma ond mae ’na bryderon y gall yr argymhellion gorddi’r dyfroedd o fewn y Llywodraeth.

Mae disgwyl i’r adroddiad argymell bod rheolydd statudol newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer papurau newydd ond mae ’na bryder y byddai hynny’n amharu ar ryddid y wasg.

Cafodd Ymchwiliad Leveson ei sefydlu gan David Cameron ym mis Gorffennaf y llynedd yn dilyn adroddiadau bod y News of the World wedi comisiynu ditectif preifat i hacio ffon y ferch ysgol gafodd ei llofruddio, Milly Dowler, ar ôl iddi ddiflannu yn 2002.

Yn ystod yr ymchwiliad, a fydd wedi costio tua £6 miliwn, clywyd tystiolaeth gan actorion a ser amlwg gan gynnwys Charlotte Church a Hugh Grant, pobl amlwg ym myd y cyfryngau, gwleidyddion a’r heddlu.

Mae’r Heddlu Metropolitan eisoes wedi cael rhybudd gan yr Arglwydd Ustus Leveson eu bod yn wynebu beirniadaeth yn sgil yr ymchwiliad i’r modd roedd yr heddlu wedi mynd i’r afael a’r helynt hacio ffonau a’u perthynas gyda’r wasg.

Cameron a Clegg

Ddoe, roedd y Prif Weinidog wedi dweud y byddai’n ceisio cael consensws y pleidiau i gyd ar drefn reoleiddio newydd, ond mae’n wynebu cryn wrthwynebiad gan y Glymblaid ac ymhlith ei Aelodau Seneddol ei hun.

Mae disgwyl i David Cameron ymateb i’r adroddiad yn y Senedd prynhawn ma – ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi awgrymu y bydd Nick Clegg yn gwneud datganiad ar wahân.

Yn ol adroddiadau mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn barod i gefnogi sefydlu rheolydd newydd statudol, a fyddai’n groes i ddymuniad nifer o Geidwadwyr.

Mae Cameron a Clegg wedi bod yn pori drwy’r adroddiad – roedd hanner dwsin o gopïau wedi cyrraedd Downing Street fore Mercher – er mwyn ceisio cytuno ar eu hymateb iddo.

AC o blaid corff annibynnol

Dywedodd yr AC Llafur Julie Morgan wrth BBC Radio Wales ei bod o blaid corff annibynnol ar sail statudol.

“Allwn ni ddim gadael i’r wasg barhau i’w rheoli eu hunain. R’yn ni i gyd eisiau gwasg sy’n annibynnol, r’yn ni i gyd eisiau gwasg sy’n gallu dal ei thir yn erbyn llywodraeth.

“Mae’n bosib cael corff rheoleiddio annibynnol na fydd llywodraeth yn gallu dylanwadu arno. Mae cyrff felly ar gael eisoes – or Ombwdsmen er enghraifft.”