Dilwyn Owen
Dilwyn Owen o Ynys Môn yw pencampwr Fferm Ffactor eleni.

Ar ôl wyth wythnos o gystadlu, daeth diweddglo’r gyfres heno, gyda Dilwyn yn cael ei enwi’n enillydd y gyfres.

“Dwi dal i binsio fy hun! Dydi petha’ fel hyn ddim yn digwydd i fi,” meddai heno.

“Dwi erioed wedi gweld y teulu yn edrych mor falch ohona i. Roedd o’n rhyddhad mewn ffordd achos ’da ni wedi bod wrthi’n cystadlu am mor hir. Dwi ddim yn meddwl y gall neb werthfawrogi faint rydan ni wedi cael ein gwthio ym mhob tasg.”

Mae’n dychwelyd i’r fferm yn Llanedwen yn falch o gael gyrru’r wobr – yr Isuzu D-Max Yukon 4×4 – dros Bont Menai i Sir Fôn am y tro cyntaf.

“Dyma’r tro cynta’ i’r wobr ddod i Sir Fôn ond nid dyma’r tro olaf dwi’n siŵr, achos mae yna ddigon o ffermwyr da yma,” meddai Dilwyn sydd hefyd yn llawn clod o’r ddau ffermwr oedd yn ei erbyn yn y rownd derfynol – sef Geraint Jenkins o Dalybont, Aberystwyth, a Gethin Owen o Fetws-yn-rhos, Conwy.

“Roedd dau gystadleuydd mor gry’ yn fy erbyn i, fuaswn i ddim wedi licio dewis rhyngom ni’n tri a dwi’n siŵr ei bod hi wedi bod yn dasg anodd i’r beirniaid.”

‘Llysgennad gwych’

Mae un o’r beirniaid, yr Athro Wynne Jones, yn cyfaddef nad oedd hi’n dasg hawdd.

“Roedd y tri olaf yn dri cryf ac, i fod yn onest, ychydig iawn oedd yn eu gwahanu nhw yn y diwedd,” meddai’r Athro Wynne Jones. “Ond roedd Dilwyn wedi perfformio i safon uwch yn y tair neu bedair wythnos diwethaf ac roedd o wedi bod yn gyson gydol y gyfres. Mae pawb yn cael diwrnodau gwael wrth gwrs, ond pan roedd Dilwyn yn cael un doedd o byth yn ddiwrnod gwael iawn!”

Daeth Dilwyn hefyd i’r brig mewn pleidlais arbennig i’r gwylwyr ar Facebook. Yn dilyn tasg cynllun busnes yn y rhaglen flaenorol, roedd gofyn i wylwyr ddewis eu hoff hysbyseb fideo roedd y tri wedi ei chynhyrchu er mwyn hyrwyddo eu busnes.

Yn y rhaglen ola’ fe roddwyd tasg fwy difrifol i’r tri ei chyflawni, gyda’r cyfle i annerch y Dirprwy Weinidog dros Amaeth yn y Cynulliad, Alun Davies.

Y pwnc y dewisodd Dilwyn ei drafod gyda’r Gweinidog oedd effaith biwrocratiaeth ar ffermwyr.

“Roedd o’n gyfle anhygoel i gael siarad efo’r Dirprwy Weinidog, a dwi’n eitha’ siŵr fy mod i wedi rhoi barn lot o ffermwyr sy’n teimlo’r un fath a mi,” meddai Dilwyn. “Dwi’n gobeithio yn ystod y gyfres i gyd ’mod i wedi gallu dangos yn o lew bod ffermwr yn gorfod troi ei law at bob dim a bod rhaid bod yn hyblyg er mwyn addasu i bob sefyllfa.”

Mae’r Athro Wynne Jones yn cytuno, ac yn credu bod Dilwyn yn llysgennad gwych i’r diwydiant. “Mae ganddo fo ddealltwriaeth dda o’r diwydiant amaeth a llawer o brofiad. Mae o’n ymarferol ac roedd ganddo fo ddigon o wybodaeth am fyd busnes a’r farchnad i gario fo drwy’r tasgau.”