Ymosodiad ar Gaza
Mae cadoediad wedi cael ei alw rhwng Israel a Hamas.

Bydd yn dod i rym am 9 o’r gloch y nos yn lleol a daw ar ôl wyth niwrnod o gyfnewid rocedi rhwng byddin Israel a Hamas yn Gaza.

Cafodd y cadoediad ei drefnu gan yr Aifft, ac mae Ysgrifennydd Gwladol America, Hillary Clinton, wedi canmol “cyfrifoldeb ac arweinyddiaeth” llywodraeth newydd yr Aifft yn ei rôl fel canolwr rhwng Israel a Hamas.

Mae Barack Obama wedi canmol Prif Weinidog Israel Binyamin Netanyahu am gytuno i gynnig cadoediad yr Aifft, ac ail-fynegodd Arlywydd America ei gefnogaeth i hawl Israel i amddiffyn ei hun.

Mae o leiaf 130 o Balestiniaid a phump o ddinasyddion Israel wedi marw yn yr anghydfod.

Yn gynharach heddiw hawliodd Hamas gyfrifoldeb am ffrwydro bom ar fws yn Tel Aviv, nepell o bencadlys byddin Israel.