Brian Conley Llun: ITV
Mae’r comedïwr Brian Conley wedi ei rhyddhau o’r ysbyty ac yn “gwella” gyda’i deulu ar ôl cael ei daro’n wael wrth gymryd rhan yn y gyfres ITV I’m A Celebrity … Get Me Out Of Here.

Bu’n rhaid i Conley adael y sioe – sy’n cael ei ffilmio yn y jwngl yn Awstralia – yn gynharach yr wythnos hon am “resymau meddygol”.

Nid oes unrhyw fanylion pellach ynglŷn â’i salwch wedi eu cadarnhau ond cafodd ei gludo i’r ysbyty yn ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran y comedïwr 51 oed bod ei broblemau iechyd bellach wedi cael eu datrys.

Roedd nifer o’r cystadleuwyr – sy’n cynnwys yr Aelod Seneddol Ceidwadol Nadine Dorries a’r actores Helen Flanagan – wedi bod yn llwglyd iawn ar ôl i’r cystadleuwyr fethu a chyflawni tasgau i ennill prydau  bwyd i weddill y tîm.

Roedd Conley hefyd wedi bod yn ei ddagrau yn dilyn ffrae gyda’r bocsiwr David Haye.

Dywedodd llefarydd ar ran ITV: “Mae diogelwch a lles ein cystadleuwyr o’r pwysigrwydd mwyaf. Mae’r cystadleuwyr i gyd yn cael eu hasesu gan arbenigwyr meddygol annibynnol cyn bod cytundebau’n cael eu harwyddo, ac eto cyn mynd i’r jwngl.

“Mae gynnon ni gysylltiad hefyd gyda meddygon y cystadleuwyr. Mae staff meddygol hefyd ar gael 24 awr y dydd yn Awstralia i roi cymorth os oes angen.”