Cartref Bryn Estyn
Mae un o ddioddefwyr camdriniaeth Bryn Estyn yn dweud bod diffyg cefnogaeth i’w gael i’r rhai a gafodd eu cam-drin yn y cartref plant.
Mewn cyfweliad arbennig â rhaglen Y Byd ar Bedwar heno, mae Tim Williams yn dweud na chafodd unrhyw gefnogaeth seiciatryddol ar ôl cael ei gam-drin.
Cafodd y dyn 53 oed ei gam-drin yn y cartref plant ger Wrecsam pan oedd yn byw yno yn 13 oed, yn ogystal ag mewn dau gartref plant arall.
Derbyniodd £100,000 o iawndal yn sgil ei gamdriniaeth yn Bersham Hall, Glamorgan Farm School a Bryn Estyn – y cyn-gartref sydd wedi dod yn ganolbwynt i honiadau’n ymwneud â cham-drin plant unwaith eto dros y misoedd diwethaf.
Yn sgil yr achos, mae Tim Williams yn dweud ei fod wedi cael ei asesu gan seiciatryddion oedd yn argymell y dylai dreulio o leia’ dwy flynedd mewn ysbyty seiciatryddol, a blwyddyn arall dan arolygaeth.
Ond ni chafodd yr argymhellion hyn eu gweithredu, ac mae’n dweud ei fod yn anhapus iawn mai’r cyfan a gafodd wedi’r achos oedd ei iawndal.
“Dwi’m iso’r arian, dwi isio’r help ’na,” meddai Tim Williams.
‘Teimlo’n ddiwerth’
Mae’n dweud fod ei brofiadau yn y cartrefi plant wedi gadael eu hôl arno ef, ac ar lawer o’r bechgyn eraill yn y cartref plant.
“Ma bywyd bob un o ni ’di bod r’un fath, addiction, gamblo, self-destruct ma nhw’n galw fo… wyt ti’n teimlo mor ddiwerth,” meddai.
“Ti’n creu petha yn dy fywyd i frifo chdi, ti’n neud o’n bwrpasol i chdi ga’l anghofio’r boen sy’n brifo chdi go wir.”
Cofio’r dioddefwyr – nid y troseddwyr
Yn ôl un elusen sy’n helpu pobol i ymdopi â thrais a cham-drin rhywiol, mae angen gwneud mwy i gofio am y dioddefwyr, nid dim ond y troseddwyr, mewn achosion o drais – yn enwedig yn y sefyllfa ddiweddaraf yn ymwneud â Jimmy Savile a’r BBC.
“Mae ’na lot o sylw yn mynd ar y BBC heb fod y sylw yn mynd lle ddylie fe fod – sef ar y rheina sydd wedi cael eu cam-drin,” meddai Nona Ephraem o RASASC (Rape and Sexual Abuse Support Centre).
Bydd Y Byd ar Bedwar yn cael ei darlledu heno, 9pm, S4C.