Rihanna (CCA 2.0)
Stadiwm y Mileniwm fydd lleoliad cyntaf taith y gantores Rihanna ym Mhrydain y flwyddyn nesaf.

Bydd y seren yn dod â’i thaith ‘Diamonds’ i Gaerdydd ar 10 Mehefin, gyda gwestai arbennig David Guetta yn ei chefnogi.

Y dinasoedd Prydeinig eraill iddi ymweld â hwy fydd Manceinion, Llundain, Birmingham a Sunderland.

“Mae Rihanna yn seren fyd-eang ac mae mor gyffrous bod Stadiwm y Mileniwm yn cynnal ei thaith ‘Diamonds’ o gwmpas y byd yr haf nesaf” meddai Rheolwr Stadiwm y Mileniwm, Gerry Toms.

“Dim ond llond llaw o leoliadau ym Mhrydain fydd y daith yn ymweld â nhw a bydd yn bendant o roi hwb i Gymru gael dechrau yn Stadiwm y Mileniwm.”

Tocynnau

Mae tocynnau’r daith yn mynd ar werth am 9:00 bore fory, 20 Tachwedd,  gyda phrisiau rhwng £35 a £75 yn dibynnu ar y ddinas.

Mae’r enillydd gwobr Grammy wedi gwerthu dros 37 miliwn o albyms a 146 miliwn o draciau digidol yn fyd eang, ac ar hyn o bryd yn dal y record fel y gantores â’r  gwerthiant digidol uchaf erioed.

Mae Rihanna ar frig y siartiau byd-eang ar hyn o bryd gyda ‘Diamonds’, ei sengl gyntaf o’i seithfed albwm stiwdio ’Unapologetic’ – mae’r albwm wedi’i ryddhau heddiw.