John Hefin a Phrif Weithredwr S4C, Ian Jones
Mae’r cyfarwyddwr teledu a drama adnabyddus John Hefin wedi marw’n 71 oed.
John Hefin, ar y cyd â Gwenlyn Parry, oedd yn gyfrifol am greu cyfres Pobol y Cwm.
Roedd yn byw ym mhentref Borth ger Aberystwyth, ac roedd wedi bod yn dioddef o salwch ers peth amser.
Ymysg ei waith mwyaf adnabyddus oedd The Life and Times of David Lloyd George a’r ffilm gomedi Grand Slam.
Cafodd ei anrhydeddu am ei gyfraniad at ddrama teledu yng ngwobrau Bafta Cymru’r mis diwethaf.
Roedd hefyd wedi derbyn gwobr Gwobr Cyfrwng am ei gyfraniad i fyd cyfryngau Cymru ym mis Gorffennaf eleni.
Roedd hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn sefydlu Comisiwn Ffilm Cymru a’r cwrs ffilm a theledu ym Mhrifsygol Aberystwyth.
Derbyniodd MBE am ei wasanaeth i fyd y ffilm yng Nghymru yn 2009 a derbyniodd Y Wisg Wen yn Yr Orsedd.
‘Ysbrydoliaeth i genhedlaeth o bobl’
Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, wedi talu teyrnged i John Hefin gan ddweud y bydd “bwlch anferthol” ar ei ôl. Yn ddiweddar, fe wnaeth Ian Jones gyflwyno gwobr Cyfrwng 2012 ym Mhrifysgol Abertawe am ei gyfraniad i’r byd ffilm a theledu yng Nghymru.
Dywedodd: “Roedd yn dristwch mawr i glywed am farwolaeth John Hefin. Fe fydd bwlch anferthol ar ôl gŵr a fu’n gyfrifol am ystod eang o raglenni teledu yn Gymraeg a Saesneg sydd wedi ysbrydoli a difyrru gwylwyr ers degawdau.
“Y deyrnged fwyaf un i John Hefin yw bod y gyfres a sefydlodd ar y cyd â’r dramodydd Gwenlyn Parry, Pobol y Cwm, yn dal yn un o gonglfeini amserlen y Sianel 38 mlynedd yn ddiweddarach. Bu hefyd yn allweddol mewn amrywiaeth o ffilmiau a chyfresi drama a dogfen wnaeth dorri tir newydd ac yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth o bobl yn y cyfryngau creadigol. Hoffwn estyn ein cydymdeimlad dyfnaf i’w deulu a’i ffrindiau.”
‘Cyfraniad aruthrol’
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies: “Gyda thristwch mawr y clywsom heddiw am farwolaeth John Hefin. Ar ddechrau’r saithdegau, cyd-greodd yr opera sebon Pobol y Cwm gyda’r awdur Gwenlyn Parry.
“Roedd yna gariad a pharch mawr tuag at waith John bob amser. Mewn sawl ffordd, roedd cyfraniad John i fyd cynhyrchu drama a ffilm yng Nghymru yn aruthrol. Roedd yn deall ei gynulleidfa yn well na neb – ac yn llawn mor dalentog ym myd y ddrama glasurol â’r ddrama boblogaidd yn y ddwy iaith.
“Fe ysbrydolodd hefyd genhedlaeth o gynhyrchwyr, awduron ac actorion gyda’i arweiniad bywiog a hynaws. Heb os, bydd y cyfraniad creadigol aruthrol hwnnw yn parhau trwy ei waith am amser maith. Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda’i deulu.”
‘Braint’
Dywedodd Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, a gydweithiodd yn agos gyda John Hefin ar gynadleddau blynyddol Cyfrwng: “Braint aruthrol oedd cael dysgu am astudiaethau ffilm wrth draed John Hefin ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Mi roedd yn ddarlithydd hollol wahanol i’r arfer; yn un nad oedd yn poeni am hierarchiaeth staff a myfyrwyr, yn un a fynnai bwysleisio’r gweledol ar draul y gair, ac yn un a welai yn glir y cyfleoedd sydd ar gael i’r Gymru Gymraeg ddweud ei stori trwy gynyrchiadau ffilm a theledu a bod lle iddynt ar lwyfan rhyngwladol.
“Does dim llawer o ddarlithwyr a allai ddenu haid ffyddlon o fyfyrwyr brwd i’r Hen Goleg am ddarlith chwech o’r gloch y nos liw gaeaf, ond fe lwyddai John bob wythnos.”
Bydd rhaglenni Heno a Newyddion ar S4C heno yn talu teyrnged i John Hefin.