Y sgets o'r ddau ddyn o Tsieina
Mae rhai o eitemau Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc nos Sadwrn wedi cael eu cyhuddo ar gyfryngau cymdeithasol o fod yn “hiliol” ac mae S4C wedi tynnu’r rhaglen oddi ar wefan ail-wylio Clic.
Cafodd yr Eisteddfod ei darlledu yn fyw o Abergwaun ac mae eitemau oedd yn cynnwys dynwarediadau o ddau ddyn o Tsieina, babi du esgus, a dynion yn gwisgo fel merched wedi cael eu beirniadu’n hallt.
Mae’r sylwebydd Cris Dafis wedi trydar fod y darllediad yn “anfaddeuol.”
“Braf gweld bod y traddodiad o fychanu menywod, hoywon a dysgwyr yn dal yn fyw ac yn iach yn Steddfod y Ffermwyr Ifanc,” trydarodd.
“Rhaid iddyn nhw beidio cael getawê jyst achos bod e’n y Gymraeg.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys: “Mae S4C yn ymddiheuro am unrhyw loes a gafodd ei achosi i wylwyr yn ystod cyfran fach o’n darllediadau o Eisteddfod Ffermwyr Ifanc 2012.
“Ar hyn o bryd, rydym yn ymchwilio i’r mater yma ac mae’r rhaglen wedi’i thynnu oddi ar ein gwefan.
“Er y cwynion am rai elfennau penodol, mae rhaglenni S4C o’r Eisteddfod wedi denu llawer iawn o ganmoliaeth hefyd.”
Dywedodd Cadeirydd cenedlaethol CFfI Cymru, Gwenno Griffith, fod y mudiad yn “ymddiheuro os oes loes wedi cael ei achosi ond doedd dim malais i’r eitemau na bwriad i achosi loes.”
Ychwanegodd y bydd y CFfI yn adolygu’r eisteddfod ac yn ystyried y sylwadau sydd wedi cael eu gwneud.
‘Wedi neud Bernard Manning yn prowd’
Trydarodd Mei Gwilym y byddai’r eisteddfod wedi “neud B Manning yn prowd,” gan gyfeirio at y diweddar ddigrifwr Bernard Manning oedd yn enwog am wneud jôcs am ben lleiafrifoedd.
Yn ôl Iwan Ellis-Roberts, “Steddfod CFfI. ping a pong, babi du yn achosi ysgariad, blacio fyny, be nesa? Go iawn rhaid i rywun gal gair. Hiliaeth nid hilarious.”
“Gwarthus bod yr eitemau wedi’u darlledu o gwbl,” oedd sylw Malan Wilkinson.
Dywedodd Ifan Morgan Jones fod y Ffermwyr Ifanc yn “gwneud lot o waith da ond angen bod yn ofalus nad ydyn nhw’n dadwneud hynny drwy lwyfannu cynnwys anaddas.”
Cafodd cynnwys yr eisteddfod ei amddiffyn gan Lowri Jones sy’n trydar dan y cyfeiriad Lowri Fron.
“Ma pobol gul iawn yn y wlad ma os ma nhw’n meddwl bod pob ymgais i ddynwared yn ymgais i sarhau,” meddai ar ei chyfrif Twitter.
Roedd mwyafrif llethol y sylwadau a gafwyd ar raglen BBC Radio Cymru, Taro’r Post hefyd o blaid yr eitemau ac yn anghytuno a’r rhai oedd wedi cwyno.