Phillip Schofield
Mae cyfreithwyr yr Arglwydd McAlpine wedi cadarnhau eu bod nhw’n ceisio mwy o iawndal gan ITV na’r £185,000 a gafodd gan y BBC wythnos ddiwethaf.
Dywedodd cyfreithwyr y cyn wleidydd Ceidwadol eu bod yn gobeithio cael ffigwr uwch gan raglen This Morning ar ITV a bod ganddyn nhw tan brynhawn ma i ymateb.
Roedd ’na feirniadaeth hallt o ITV ar ôl i’r cyflwynydd Phillip Schofield gyflwyno rhestr o enwau o bedoffiliaid honedig yr oedd wedi dod o hyd iddyn nhw ar y rhyngrwyd, i’r Prif Weinidog David Cameron yn ystod cyfweliad byw.
Mae Ofcom hefyd yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad, tra bod ITV yn dweud wedi cymryd camau disgyblu.
Mae ITV yn un o nifer o sefydliadau ac unigolion, gan gynnwys gwraig Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, oedd wedi cysylltu’r Arglwydd McAlpine ar gam gydag achosion o gam-drin plant.
Daeth ei gyfreithwyr i gytundeb gyda’r BBC wythnos ddiwethaf ar ôl i raglen Newsnight ei gysylltu gydag achosion o gam-drin plant yng nghartref gofal Bryn Estyn yn Wrecsam. Er nad oedd y rhaglen wedi cyhoeddi ei enw, fe gafodd ei enwi gan sawl un ar y we.
Dywedodd yr Arglwydd McAlpine ei fod yn ymwybodol mai’r rhai oedd yn talu’r drwydded a fyddai’n gorfod talu am ei iawndal a’i fod wedi cymryd hynny i ystyriaeth wrth ddod i gytundeb gyda’r BBC.