Roedd twf economaidd Tsieina wedi gostwng i’w lefel isaf ers mwy na thair blynedd yn y chwarter diwethaf.
Bu twf o 7.4% yn economi Tsieina yn y tri mis hyd at fis Medi, ond roedd y ffigwr yn is na tharged y Blaid Gomiwnyddol o 7.5% ar gyfer y flwyddyn, yn ôl ffigurau heddiw.
Roedd y ffigwr yn is na’r 7.6% yn y chwarter blaenorol a’r ffigwr isaf ers 2009.
Ond mae twf o 14.4% mewn gwerthiant yn arwydd bod yr economi yn gwella yn dilyn y dirwasgiad byd-eang. Roedd buddsoddiad mewn ffatrïoedd hefyd wedi gwella, gan gynyddu 20.5% yn naw mis cynta’r flwyddyn.
Mae Beijing wedi gostwng cyfraddau llog ddwywaith ers dechrau mis Mehefin ac yn rhoi hwb ariannol i’r economi drwy fuddsoddiad gan gwmnïau’r wladwriaeth, a gwario ar adeiladu ffyrdd.