Fe fydd y Llywodraeth yn cael ei rhybuddio heddiw bod y ddadl wleidyddol ynglŷn â chyflenwadau ynni’r DU mewn peryg o rwystro buddsoddiad yn y sector ynni.

Mae Neil Bentley, dirprwy gyfarwyddwr cyffredinol grŵp busnes CBI yn galw ar y Llywodraeth am “lai o wleidyddiaeth, mwy o bolisi” er mwyn annog buddsoddwyr yn y sector ynni a hybu twf.

Mewn cyfarfod gyda’r Gweinidog Ynni Ed Davey heddiw, fe fydd Dr Bentley yn dweud mai’r ffordd fwyaf cost-effeithiol o leihau allyriadau yw drwy gymysgedd o ynni, gan gynnwys atomfeydd niwclear, ynni nwy newydd ac ynni adnewyddadwy.