Catherine Gowing sydd wedi bod ar goll ers 12 Hydref
Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio o’r newydd am help y cyhoedd i ddod o hyd i ddynes 37 oed o Sir y Fflint sydd wedi bod ar goll ers dydd Gwener ddiwethaf.
Dywed yr heddlu eu bod yn bryderus iawn am ddiogelwch Catherine Gowing, sy’n dod o Sir Offaly yn ne Iwerddon yn wreiddiol.
Mae dyn 46 oed o Wynedd, sy’n adnabod Catherine, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o’i llofruddio ac yn cael ei holi gan yr heddlu.
Cafodd Catherine Gowing, sy’n filfeddyg, ei gweld y tro diwethaf yn gadael ei gwaith ym Milfeddygfa Evans yn Heol Clayton yr Wyddgrug tua 7yh nos Wener, 12 Hydref. Ond nid yw wedi cael ei gweld ers hynny ac fe fethodd apwyntiad dros y penwythnos ac nid oedd wedi dychwelyd i’w gwaith fore dydd Llun. Mae hyn yn hollol groes i’w chymeriad, medd yr heddlu.
Mae ei chwaer Emma a’i brawd yng nghyfraith Shay wedi teithio draw o Iwerddon er mwyn helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad.
Car Renault Clio Catherine Gowing
Credir ei bod wedi teithio adref i Gae Isa, New Brighton mewn car Vauxhall Corsa, sy’n perthyn i’r gwaith. Mae Catherine hefyd yn berchen Renault Clio porffor gyda rhif cofrestru Gwyddelig – 00D99970 – sydd hefyd wedi diflannu o’i chartref.
Mae’r heddlu’n awyddus iawn i ddod o hyd i’w char ac yn apelio am gymorth y cyhoedd.
Mae Catherine tua 5’10” o daldra, yn denau, gwallt hir, cyrliog brown ac mae hi’n siarad ag acen Wyddelig.
Dylai unrhywun sydd a gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111