Y stori'n cael ei thorri yn Golwg
Mae papur bro wedi cael clywed gan awdurdodau’r Loteri na allan nhw gael arian heb gyhoeddi fersiwn Saesneg.

Ddiwrnod ar ôl i  gylchgrawn Golwg ddechrau holi pam fod grant wedi’i wrthod, fe gafodd trefnydd busnes  papur Y Gloran yn y Rhondda lythyr yn esbonio.

Yn ôl hwnnw, dim ond prosiectau dwyieithog sy’n cael arian gan  Gronfa’r Loteri Fawr ac roedd Bwrdd yr iaith wedi cymeradwyo eu cynllun iaith.

“Dw i’n methu’n lân â deall y penderfyniad hwn gan fod y papurau bro yn chwarae rhan bwysig yn strategaeth iaith y Llywodraeth,” meddai Cennard Davies.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud ei bod “yn briodol” rhoi grant i fudiad sydd wedi ei sefydlu i “hyrwyddo, hwyluso a defnyddio’r Gymraeg”.

Y stori arbennig yng nghylchgrawn Golwg heddiw