Michael Sheen
Mae’r actor o Bort Talbot, Michael Sheen wedi derbyn gradd anrhydeddus gan Brifysgol Abertawe.

Derbyniodd Michael Sheen yr anrhydedd yn Efrog Newydd neithiwr, lle’r oedd yn lansio Dyddiaduron Richard Burton yn America.  Roedd  Is Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies wedi cyflwyno’r wobr iddo.

Mae Dyddiaduron Richard Burton yn cael eu cadw ym Mhrifysgol Abertawe ac yn cynnig cip ar fywyd mab arall enwog o Bort Talbot.

‘Cyfraniad enfawr’

Dywed y Brifysgol bod Michael Sheen yn derbyn yr anrhydedd o ganlyniad i’w ‘‘gyfraniad enfawr i fywyd diwylliannol de Cymru a’r byd ehangach, ac am roi enw da i Gymru ar draws y byd.’’

Dywedodd  yr Athro Richard B Davies: ‘‘Caiff y gwobrau hyn eu cyflwyno i unigolion fel cydnabyddiaeth o’u llwyddiant aruthrol a    chyfraniad i’r Brifysgol neu ranbarth. Mae Michael Sheen wedi llwyddo ar lefel ryngwladol. Ond mae wedi cadw’n glos at ei wreiddiau a sicrhau ei fod yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r rhan yma o’r byd. Rydym felly wrth ein boddau o fedru ei anrhydeddu â’r wobr arbennig hon.’’

Wrth dderbyn ei anrhydedd, dywedodd Michael Sheen: ‘‘Rwy’n falch iawn o dderbyn y Radd Anrhydeddus hon, yn enwedig gan ei bod yn dod o Abertawe, y ddinas y ces i fy magu nid nepell ohoni a lle y bum yn hapus iawn yn fy mhlentyndod.

“Rwy’n falch o ddal i fod ynghlwm â sefydliadau yn ardal Gorllewin Morgannwg felly mae cael fy anrhydeddu gan Brifysgol Abertawe yn y modd hwn yn golygu llawer i mi.’’

Gyrfa lewyrchus

Ar ôl dechrau yn Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg, aeth Michael Sheen yn ei flaen i astudio yn RADA (Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig) cyn ennill ei rôl broffesiynol gyntaf ar y llwyfan ym 1991 gyda Vanessa Redgrave. Mae wedi chwarae sawl rôl wahanol gan gynnwys Romeo, Henry V, Peer Gynt a Caligula.

Ar y sgrin, mae wedi chwarae sawl rhan megis y cyn Brif Weinidog Tony Blair, David Frost, rheolwr pêl-droed Lloegr, Brian Clough a’r actor Kenneth Williams. Yn fwy diweddar, fe’i gwelwyd ar y teledu yn yr Unol Daleithiau, wrth actio gyda Tina Fey yn nrama boblogaidd NBC, 30 Rock.

Un o gyfraniadau Michael Sheen i’w ardal enedigol yn ddiweddar oedd The Passion, cynllun theatr unigryw gafodd ei lwyfannu dros gyfnod o dridiau ym Mhort Talbot.

Mae Michael Sheen yn llysgennad nifer o elusennau a mentrau diwylliannol, gan gynnwys Gwobr Dylan Thomas, sy’n hyrwyddo awduron ifanc.