Hilary Mantel (o wefan y Man Booker)
Ymateb cynta’ Hilary Mantel ar ôl ennill ei hail Wobr Man Booker oedd dweud ei bod eisiau mynd yn ôl at ei desg i ddechrau sgrifennu eto.
Roedd yr awdures eisiau mynd yn ôl i orffen sgrifennu’r drydedd nofel yn ei thrioleg o straeon hanesyddol am gyfnod y Tuduriaid – y ddwy gynta’ sydd wedi ennill y Booker.
Neithiwr, fe lwyddodd Bring Up the Bodies i guro 145 o nofelau eraill, gan olygu mai hi yw’r trydydd awdur i ennill y wobr ddwywaith, a’r unig fenyw i wneud hynny hyd yn hyn.
Hi hefyd yw’r unig un i ennill gyda dwy nofel mewn cyfres ac i ennill ddwywaith mewn cyfnod mor fyr – yn 2009 yr enillodd Wolf Hall.
‘Camp fawr’
Yn ôl trefnwyr y Man Booker, roedd ei llwyddiant yn atgyfodi cymeriad Thomas Cromwell ar gyfer yr ail nofel yn “un o gampau mawr llenyddiaeth fodern”.
Wrth dderbyn y wobr, fe ddywedodd Hilary Mantel y byddai’n well ganddi fod yn ôl wrth ei desg yn gorffen y drydedd nofel – “mae gen i gymaint o syniadau”, meddai.
Fe fydd disgwyl mawr bellach i weld a all y drydedd nofel honno gipio trydedd gwobr.