Yr Arlywydd Bashar Assad
Mae Nato wedi beirniadu ymosodiad ar bentref yn Nhwrci gan luoedd Syria oedd wedi lladd pump o bobl gan gynnwys mam a thri o’i phlant.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn nhref Arkcakale ar y ffin rhwng Twrci a Syria ddoe.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague hefyd wedi condemnio’r ymosodi gan luoedd yr Arlywydd Bashar Assad gan ddweud bod y digwyddiad yn brawf arall o’r dirywiad sydd wedi bod yn Syria.