Megan Stammers
Mae disgwyl i’r athro Jeremy Forrest ddychwelyd i’r DU heddiw ar ôl iddo gael ei arestio yn Ffrainc ar amheuaeth o gipio plentyn.

Roedd Forrest, 30, wedi ymddangos gerbron ynadon yn Bordeaux ddydd Mawrth lle’r oedd wedi cytuno i gael ei anfon yn ôl i Brydain.

Dywed cyfreithiwr yr athro mathemateg sy’n briod y bydd y “stori lawn” am ei ddiflaniad gyda’r ferch ysgol 15 oed Megan Stammers yn cael ei ddatgelu ar ôl iddo ddychwelyd i’r DU.