Barack Obama
Mae Barack Obama wedi dweud y bydd America yn gweithio gyda llywodraeth Libya er mwyn sicrhau cyfiawnder ar ôl i lysgennad y wlad a thri o Americanwyr eraill gael eu lladd yn Benghazi.

“Peidied neb â chael ei dwyllo, fe fydd cyfiawnder yn cael ei wneud,” meddai Barack Obama yn y Tŷ Gwyn.

Dywedodd Obama ei fod yn condemnio’r ymosodiad nos Fawrth “yn y termau cryfaf posibl.”

Roedd y llysgennad Christopher Stevens yn un o bedwar o Americanwyr a gafodd eu lladd mewn ymosodiad gan dorf gyda drylliau a grenadau. Mae’n debyg fod y dorf wedi ymgynnull fel rhan o brotest yn erbyn ffilm o America sydd yn pardduo’r proffwyd Mohamed, ac mae adroddiadau fod yr ymosodiad wedi cael ei gynllunio o flaen llaw.

Cafodd swyddogion diogelwch o Libya eu lladd yn yr ymosodiad hefyd.

Dywedodd llefarydd yn y Tŷ Gwyn, Jay Carney, ei bod hi’n rhy gynnar i ddweud a chafodd yr ymosodiad ei gynllunio o flaen llaw.

Beirniadodd yr ymgeisydd Gweriniaethol Mitt Romney ymateb gweinyddiaeth Obama i’r ymosodiad yn Benghazi ac i brotest arall yn llysgenhadaeth Cairo ddydd Mawrth, a chyhuddodd Romney’r weinyddiaeth o fod yn swil wrth gefnogi gwerthoedd America.

Mae 50 o filwyr yr Unol Daleithiau wedi cael eu hanfon i Libya i gryfhau’r diogelwch yn safleoedd diplomyddol America, medd swyddogion.