“Mae’r frwydr i gael y gwirionedd drosodd, nawr rydym yn dechrau’r frwydr am gyfiawnder.”
Dyna ddywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Cilgwri, Esther McVey neithiwr wrth i filoedd o bobl ddod ynghyd yn Lerpwl i gofio’r 96 o gefnogwyr pel-droed fu farw yn nhrychineb Hillsborough 23 o flynyddoedd yn ol.
Mae’r teuluoedd wedi dweud y dylai pobl gael eu herlyn, ar ôl i adroddiad damniol gael ei gyhoeddi ddoe oedd yn datgan bod cyrff swyddogol wedi ceisio dweud mai’r cefnogwyr oedd yn gyfrifol am y drychineb.
Roedd y Prif Weinidog, David Cameron wedi ymddiheuro i deuluoedd y rhai fu farw a dywedodd fod yna dystiolaeth newydd sy’n dangos bod ffaeleddau’r stadiwm, yr heddlu a’r gwasanaethau brys wedi atal rhagor o bobl rhag cael eu hachub.
Yn ystod y cwest gwreiddiol, dywedodd y crwner bod y 96 wedi marw o fewn 15 munud ar ôl cael eu gwasgu i farwolaeth.
Ond mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn honni y gallai’r gwasanaethau brys fod wedi achub tua 41 o bobl petaen nhw wedi ymateb yn gynt.
Roedd yr adroddiad hefyd yn awgrymu bod Heddlu De Swydd Efrog wedi cuddio’r gwir trwy addasu a dileu cofnodion a gafodd eu creu ar ôl siarad â chefnogwyr.
‘Cyfiawnder i’r teuluoedd’
Neithiwr dywedodd maer y ddinas Joe Anderson: “Nawr ein bod ni’n gwybod y gwir am yr hyn ddigwyddodd ym 1989 mae’n rhaid i ni sicrhau bod teuluoedd yn cael y cyfiawnder maen nhw’n ei haeddu.
“Rwy’n galw ar y Twrne Cyffredinol i wneud cais i’r Uchel Lys yn syth i ddiddymu rheithfarnau’r cwest gwreiddiol fel bod ymchwiliad newydd yn cael ei gynnal.
“Yn ogystal, fe ddylai’r rhai oedd wedi chwarae rhan yn yr ymdrech i gelu’r gwirionedd gael eu dwyn i gyfrif am eu twyll.”
Dywedodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd Elfyn Llwyd ar BBC Radio Cymru bore ma bod angen cwest o’r newydd.