Marl Cavendish yn cael ei gyfweld yn Blackpool
Bu Mark Cavendish yn fuddugol  am yr ail ddiwrnod yn olynol wrth ennill y pedwerydd cymal ar bromenâd  Blackpool.   Roedd  Steele van Hoff (GRS) yn ail a Leigh Howard (OGE)  yn drydedd.

Roedd ei fuddugoliaeth prynhawn ma’ yn sicrhau y bydd Cavendish  yn gwisgo crys melyn arweinydd y ras.

Tywydd garw

Bu 94 o seiclwyr yn dechrau’r cymal heddiw o Carlisle i Blackpool, pellter o 156km sef 97 milltir. Roedd  chwech o seiclwyr  wedi creu bwlch o dros chwe munud ar ôl ugain milltir ger Penrith, ac roedd nifer ar strydoedd y dre, er gwaethaf y tywydd erchyll.

Ar un adeg, oedd Niklas Gustavsson (UKY) i  bob pwrpas yn arwain y ras, oherwydd roedd  ond 17 eiliad ar ôl arweinydd y ras Leigh Howard (OGE).    Krisitian House (RCS) oedd yn fuddugol ar y mynyddoedd,  ac felly’n cadw’i  afael ar y crys KOM.   Roedd miloedd yn aros am y seiclwyr yn Blackpool,  ac oherwydd bod  y ras  yn arafach na’r disgwyl, fe gyrhaeddodd yr haul mewn pryd.

Dywedodd Cavendish ar ôl derbyn y crys melyn: “Mi wnâi ildio’r crys fory mwy na thebyg, oherwydd mynyddoedd y Peak Disitrict,” meddai.

Mae bwlch o 6 eiliad rhwng Cavendish a Howard yn ail, gyda’r gŵr o Gaerdydd Luke Rowe (Sky) yn bedwaredd.

Garmin Sharp sydd ar frig y timau.  Boy Van Poppel (UHC) sy’n gwisgo crys y pwyntiau a Peter Williams (NGR) sy’n gwisgo crys y gwibiwr.

Ronan Mclaughlin o Iwerddon enillodd gwobr y combatiivity.

Yfory bydd y ras yn dychwelyd i Stoke-on Trent gyda 91 milltir yn wynebu’r seiclwyr.

Adroddiad: Tommie Collins