Mae cyn-olygydd The Sun, Kelvin MacKenzie wedi ymddiheuro i drigolion Lerpwl yn dilyn cyhoeddi canlyniadau adroddiad annibynnol y bore yma.
Cyhoeddodd y papur newydd, dan olygyddiaeth MacKenzie, erthygl oedd yn dwyn y pennawd ‘The Truth’, oedd yn rhoi’r bai am y trychineb ar gefnogwyr Lerpwl.
Mae’r adroddiad a gafodd ei gyhoeddi heddiw wedi dangos mai cyfuniad o ffaeleddau’r heddlu, y stadiwm a’r gwasanaethau brys oedd yn gyfrifol am yr hyn ddigwyddodd yn y stadiwm yn Sheffield ym 1989.
Mae MacKenzie wedi cynnig ymddiheuriad i bobl Lerpwl gan ddweud ei fod wedi cael ei “gamarwain yn llwyr.”
Dywedodd mewn datganiad: “Heddiw, rwy’n cynnig ymddiheuriadau llaes i bobl Lerpwl am y pennawd hwnnw.
“Ces innau hefyd fy nghamarwain yn llwyr. Tair ar hugain o flynyddoedd yn ôl, ces i ddarn o wybodaeth gan asiantaeth newyddion dibynadwy yn Sheffield yn dweud bod heddwas ac Aelod Seneddol profiadol yn gwneud honiadau difrifol am gefnogwyr yn y stadiwm.
“Doedd gen i ddim rheswm i gredu y byddai’r bobl hyn mewn awdurdod yn dweud celwydd nac yn twyllo ynghylch y fath drychineb.”
Mae’r adroddiad yn dweud bod yr heddlu wedi celu ac wedi addasu 164 o ddatganiadau, gan ddileu 116 o sylwadau negyddol tystion am yr heddlu.
Roedd y papur newydd wedi cyhoeddi gwybodaeth am y cefnogwyr a oedd yn rhoi’r bai arnyn nhw ac yn anwybyddu ffaeleddau’r heddlu.