Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi ymddiheuro i deuluoedd y 96 o gefnogwyr pel-droed a gafodd eu lladd yn Hillsborough, ar ôl i adroddiad a gafodd ei gyhoeddi’r bore yma ddweud nad oedden nhw’n gyfrifol am y trychineb.

Dywedodd David Cameron fod yna dystiolaeth newydd sy’n dangos bod ffaeleddau’r stadiwm, yr heddlu a’r gwasanaethau brys wedi atal rhagor o bobl rhag cael eu hachub.

Yn ystod y cwest gwreiddiol, dywedodd y crwner bod y 96 wedi marw o fewn 15 munud ar ôl cael eu gwasgu.

Ond mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn honni y gallai’r gwasanaethau brys fod wedi achub rhagor o bobl petaen nhw wedi ymateb yn gynt.

Dywedodd David Cameron fod yr adroddiad yn awgrymu bod Heddlu De Swydd Efrog wedi cuddio’r gwir trwy addasu a dileu cofnodion a gafodd eu creu ar ôl siarad â chefnogwyr.

Mae’n ymddangos bod 164 o ddatganiadau wedi cael eu haddasu, gan gynnwys 116 o sylwadau negyddol am y ffordd yr aeth yr heddlu ati i ymateb i’r digwyddiad.

Ychwanegodd fod yr heddlu wedi chwilio cyfrifiaduron y meirw er mwyn eu pardduo a’u cyhuddo o fod yn hwliganiaid.

Mae’r dystiolaeth hefyd yn awgrymu bod yr heddlu wedi helpu’r cyfryngau lleol i gyhoeddi honiadau ffug am y cefnogwyr.

Ond dywedodd nad oedd Llywodraeth Margaret Thatcher wedi cuddio unrhyw ffeithiau ar y pryd.

‘Gwarth cenedl’

Cadarnhaodd David Cameron y gallai cwest newydd gael ei orchymyn, ond mai cyfrifoldeb y Twrnai Cyffredinol yw mynd at yr Uchel Lys.

Dywedodd David Cameron: “Mae’r adroddiad yn ddu a gwyn: doedd y cefnogwyr ddim ar fai am y drychineb.”

Ychwanegodd mai honiadau di-sail oedd fod rhai cefnogwyr wedi dwyn eiddo oddi ar rai o’r 96 fu farw.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Milliband ei fod yn croesawu ymddiheuriad y Prif Weinidog, a’i bod yn “warth cenedl ei bod wedi cymryd 23 o flynyddoedd cyn cyrraedd y gwirionedd”.

“Gobeithio bod heddiw yn ddiwrnod o wirionedd i’r teuluoedd, ac y gallan nhw alaru mewn tawelwch”.

‘Dewrder y teuluoedd’

Dywedodd Aelod Seneddol Sheffield Brightside, David Blunkett: “Allai neb yn ei iawn bwyll fod wedi rhoi’r bai ar y dioddefwyr.”

Ychwanegodd Aelod Seneddol Cilgwri, Alison McGovern: “Does yna ddim geiriau yn yr iaith Saesneg sy’n ddigon da i ddisgrifio urddas, graslonrwydd a dewrder teuluoedd y drychineb.”

Ychwanegodd Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, Chris Bryant fod angen i gyn-olygydd The Sun, Kelvin McKenzie ymddiheuro am gyhuddo’r cefnogwyr o ymddwyn yn beryglus cyn y drychineb.

Dywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Meirionydd, Glyn Davies ar ei gyfrif Twitter: “Datganiad rhyfeddol ar Hillsborough gan y Prif Weinidog. Graddfa’r celu a’r cais i feio’r cefnogwyr yn syfrdanol. Gofyn i fy hun sut fedren nhw wneud hynny.”

‘Teuluoedd yn croesawu ymddiheuriad’

Mae Esgob Lerpwl, James Jones wedi dweud bod teuluoedd y cefnogwyr fu farw yn Hillsborough wedi croesawu ymddiheuriad David Cameron.

Mae’r panel annibynnol sydd wedi bod yn archwilio tystiolaeth yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi’r bore yma wedi dweud nad oes ganddyn nhw hawl i alw am gwest arall, nac i wneud argymhellion ar sail eu hadroddiad.

Dywedodd yr Esgob James Jones: “Doedd yr hyn yr oedd pobl yn ei wybod cyn heddiw ddim yn adrodd y stori lawn.”

Mae’r panel yn gyfuniad o arbenigwyr ar iechyd, y gyfraith, y cyfryngau, yr heddlu a chofnodion cyhoeddus.

Mae’r panel wedi dweud bod yna dystiolaeth i ddangos y gallai 41 o’r 96 fod wedi cael eu hachub.

Mae darganfyddiadau llawn y panel ar gael ar-lein yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad.