Fe fydd teuluoedd 96 o gefnogwyr pêl-droed gafodd eu lladd yn Hillsborough yn gweld miloedd o ddogfennau cyfrinachol yn ymwneud â’r trychineb am y tro cyntaf heddiw.

Y gobaith yw y bydd y teuluoedd yn cael atebion am yr hyn ddigwyddodd yn ystod y gêm yn rownd gynderfynol Cwpan yr FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar 15 Ebrill, 1989.

Mae Panel Annibynnol Hillsborough wedi bod yn goruchwylio’r broses o ryddhau’r dogfennau sydd heb gael eu cyhoeddi o’r blaen gan 80 o sefydliadau gan gynnwys y Llywodraeth, yr heddlu, gwasanaethau brys, Cyngor Dinas Sheffield a chrwner De Sir Caer Efrog.

Teuluoedd y 96 o bobl  fu farw yn y digwyddiad fydd y cyntaf i weld mwy na 400,000 o dudalennau o’r dogfennau o 8yb heddiw.

Yn ddiweddarach, fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn annerch Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin ac fe fydd y dogfennau yn cael eu rhoi ar wefan i’r cyhoedd eu gweld.

Fe fydd adroddiad yn esbonio cynnwys y dogfennau yn cael ei gyhoeddi gan y panel.

‘Anghyfiawnder’

Roedd adroddiad i’r trychineb gan yr Arglwydd Ustus Taylor a gyhoeddwyd ym 1990 wedi dweud mai diffyg “rheolaeth yr heddlu” oedd achos y trychineb. Ond fe benderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd digon o dystiolaeth i ddwyn achos.

Dywed teuluoedd y rhai fu farw ei bod yn anghyfiawn nad oes yr un sefydliad wedi cael eu dwyn i gyfrif am y trychineb. Maen nhw’n dweud nad oedd Heddlu De Sir Gaerefrog wedi dilyn canllawiau ar gyfer ymateb i ddigwyddiad o’r fath, ac nad oedd y cefnogwyr yn Leppings Lane wedi cael mynediad i driniaeth frys.

Mae’r teuluoedd hefyd yn gwrthod canfyddiadau cwest i’r marwolaethau, oedd wedi dyfarnu bod pob un o’r 96 wedi marw erbyn 3.15pm gan olygu bod rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol wedi ei gofnodi.