Serbia 6–1 Cymru
Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd Brasil yn 2014 yn fain iawn yn dilyn cweir gan Serbia yn Stadiwm Karadjordje, Novi Sad nos Fawrth.
Roedd y gêm fwy neu lai drosodd erbyn yr egwyl wedi i amddiffyn gwan Cymru ildio tair. Ond roedd gwaeth i ddod yn yr ail hanner wrth i Serbia ychwanegu tair arall ar noson drychinebus i dîm Chris Coleman.
Dechrau Gwael
Y tîm cartref a ddechreuodd y gêm gryfaf a doedd dim llawer o syndod pan aethant ar y blaen toc wedi chwarter awr o chwarae.
Ildiodd Simon Church gic rydd ddi angen mewn sefyllfa beryglus gyda throsedd ar Branislav Ivanovic a chrymanodd Aleksandar Kolorov gic rydd droed chwith i gefn y rhwyd. Roedd hi’n ymdrech dda gan gefnwr Man City ond dylai Glyn Boaz Myhill yn y gôl i Gymru fod wedi ymateb yng nghynt.
Ac roedd hi’n ddwy hanner ffordd trwy’r hanner diolch i lanast amddiffynnol gan dîm Chris Coleman. Methodd Ashley Williams a Chris Gunter glirio’r bêl a manteisiodd Zoran Tosic i ddyblu mantais ei wlad.
Gwnaeth Gunter yn well ychydig funudau yn ddiweddarach wrth atal ergyd arall gan Dusan Tadic ac roedd Cymru yn ôl yn y gêm wedi hanner awr o chwarae.
Cafodd Bale ei lorio gan Milan Bisevac 25 llath allan a chododd ar ei draed i daro chwip o gic rydd heibio i Vladimir Stojkovic yn y gôl i Serbia.
Ond adferodd Filip Djuricic y ddwy gôl o fantais i’r tîm cartref cyn yr egwyl yn dilyn cyfres arall o gamgymeriadau yn amddiffyn Cymru. Wedi dweud hynny, roedd hi’n ergyd dda pan ddisgynnodd y bêl iddo yn y diwedd.
Diweddglo Gwaeth
Bu bron i Djuricic ychwanegu un arall yn gynnar yn yr ail hanner ond gwnaeth Darcy Blake yn dda i atal ei ergyd.
Ond fu dim rhaid i Serbia aros yn hir wrth i Tadic sicrhau’r fuddugoliaeth gyda’r bedwaredd gôl bum munud wedi’r egwyl. Ildiodd Bale y bêl i Ivanovic a churodd yntau David Vaughan yn rhy rhwydd cyn pasio ar draws y cwrt cosbi i Tadic.
Ivanovic ei hun a sgoriodd y bumed ddeg munud o’r diwedd a chamgymeriad amddiffynnol arall oedd yn gyfrifol. Tro Blake i golli’r meddiant mewn safle peryglus oedd hi y tro hwn ond gwnaeth cefnwr Chelsea yn dda i guro Myhill o 20 llath.
Roedd digon o amser i Gunter wyro ergyd yr eilydd, Miralem Sulejmani, dros ben Myhill wrth i noson drychinebus Cymru yn Novi Sad ddod i ben gyda chweched gôl i’r tîm cartref.
Mae’r canlyniad yn gadael Cymru ar waelod Grŵp A gyda dim un pwynt wedi dwy gêm.
Ymateb Coleman
“Allwn ni ddim hyd yn oed cyrraedd hanner amser yn gyfartal ar hyn o bryd. Ac os edrychwch chi ar rai o’r goliau y rhoesom ni i Serbia heno, roedd hi’n edrych fel dynion yn erbyn bechgyn ar adegau. Fedrwch chi ddim rhoi goliau i ffwrdd fel yna ar y lefel yma.”
“Fi yw’r rheolwr a dwi’n derbyn y cyfrifoldeb. Dwi’n siomedig ac felly hefyd y chwaraewyr. Yr hyn na allwn ni ei wneud yn awr yw derbyn y perfformiad yna a wnawn ni ddim ei dderbyn.”
Serbia
Tîm: Stojkovic, Bisevac, Mattija Nastasic, Ivanovic, Kolarov, Fejsa, Tosic (Sulejmani 71’), Tadic, Ignjovski (Mijailovic 85’), Djuricic (Lekic 81’), Markovic
Goliau: Kolorov 16’, Tosic 24’, Djuricic 39’, Tadic 55’, Ivanovic 80’, Sulejmani 89’
Cymru
Tîm: Myhill, Gunter (Ricketts 46’), Matthews, Williams, Bale, Edwards (Vaughan 46’), Blake, Allen (King 72’), Ramsey, Church, Morison
Gôl: Bale 31’
Cardiau Melyn: Blake 62’, Ramsey 78’
Torf: 11,300