Chris Coleman
Mae Chris Coleman wedi cydnabod fod y rhediad sâl yn “pwyso ar ei feddwl” ond bod buddugoliaeth yn mynd i ddod i Gymru “yn hwyr neu’n hwyrach.”
Mae Cymru’n chwarae Serbia heno yn ail gêm yr ymgyrch i gyrraedd Rio2014 ac mae amddiffynnwr Serbia, Aleksandar Kolarov, wedi beirniadu arddull chwarae ‘cicio’r bêl lawr y cae’ gwledydd Prydain.
Dywedodd Chris Coleman y dylai Kolarov, sy’n chwarae i Manchester City, ganolbwyntio ar wynebu Gareth Bale yn hytrach na gwneud sylwadau ar arddull chwarae Cymru.
Ond nid yw Cymru wedi sgorio gôl eto yn y pedair gêm ers i Coleman fod wrth y llyw, a chollon nhw’r gêm ragbrofol gyntaf yn erbyn Gwlad Belg nos Wener ar ôl i James Collins gael carden goch gynnar.
Nid yw Craig Bellamy, Wayne Hennessey, Neil Taylor na James Collins ar gael ar gyfer y gêm yn Novi Sad, ond mae Cymru’n gobeithio bydd Joe Allen yn holliach ar ôl methu’r gêm nos Wener.
Mae’r gic gyntaf yn Stadiwm Karadjordje, Novi Sad, am 7.30 heno.