Er iddo gael crys aur arweinydd y Tour of Britain neithiwr, mae Luke Rowe wedi cael ei osod yn y trydydd safle erbyn hyn.

Penderfynodd awdurdodau’r ras fod eiliad o fwlch ar y llinell derfyn rhwng y Cymro o Gaerdydd ac enillydd y cymal ger Lerpwl ddoe, Leigh Howard. Roedd hyn yn ddigon i ostwng Rowe i’r trydydd safle ar ôl dau gymal o’r ras hyd yn hyn.

Rowe oedd enillydd annisgwyl y cymal cyntaf ddydd Sul, a fe sydd ar frig y rhestr o blith seiclwyr tîm Sky – tîm sy’n cynnwys Bradley Wiggins a Mark Cavendish.

Boy Van Poppel o’r Iseldiroedd sydd â chrys aur yr arweinydd, gyda Howard yn ail a Rowe yn drydydd.

Mae’r ras heddiw yn cael ei chynnal yng ngororau’r Alban, a dydd Gwener bydd y ras yn ymweld â Chymru wrth iddi ymlwybro o’r Trallwng i Gaerffili.