Andy Murray
Andy Murray yw’r dyn cyntaf o Brydain i ennill Camp Lawn tenis ers 76 o flynyddoedd.
Fe lwyddodd yr Albanwr i guro Novak Djokovic mewn pum set yn yr US Open yn Efrog Newydd neithiwr.
Dyma ei bumed ymgais i ennill teitl un o’r cystadleuthau camp lawn am y tro cyntaf. Murray, 25, yw’r dyn cyntaf i ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd a’r US Open yn yr un flwyddyn.