Mae Abertawe wedi arwyddo’r cefnwr chwith Dwight Tiendalli o’r Iseldiroedd tan ddiwedd y tymor.
Bydd yr Iseldirwr 26 oed yn cymryd lle Neil Taylor, a fydd yn colli gweddill y tymor ar ôl torri’i ffêr.
Mae Tiendalli, sydd wedi cynrychioli tîm dan 21 ei wlad, yn arwyddo am ddim ar ôl cael ei ryddhau gan FC Twente.
Dechreuodd y cefnwr chwith ei yrfa gydag Ajax, ac mae e wedi chwarae i glybiau Utrecht a Feyenoord.
Mae’r hawl gan glybiau yn yr Uwch Gynghrair i arwyddo chwaraewyr sydd heb gytundeb y tu allan i’r ffenest trosglwyddo.