Enillodd  Leigh Howard yr ail gymal, wrth orffen yn gyntaf mewn sbrint â Mark Cavendish, diwrnod rhwystredig arall i Cav ar ôl ei godwm ddoe.  Roedd y gŵr o Awstralia, Howard wedi gwirioni wrth guro Cav, yn enwedig ar dir ei hun.

Dywedodd Howard: “Mae’n rhywbeth arbennig i guro Cav, gyda 250m i fynd roeddwn yn sicr fy mod i am ennill.”

Roedd Cavendish yn yr ail safle a van Poppel yn drydedd.

Mae’r  gŵr o’r Iseldiroedd, Boy Van Poppel (UHC) yn gwisgo’r crys melyn fel arweinydd y ras.

Brenin y mynyddoedd

Roedd chwech  o feicwyr wedi creu bwlch o dros dair munud yn gynnar, er hynny mi wnaeth Tîm Sky  rheoli’r ras.  Gyda 22km i fynd neidiodd Jack Bobridge ( OGE )  a Pete Williams (NGR) o’r pedwar arall, a chreu bwlch.   Oherwydd bod y gŵr o Wlad y Basg Pablo Urtasun (EUS) yn y grŵp bach, y fo  sy’n gwisgo’r crys KOM (Brenin y Mynyddoedd) ar ôl cyrraedd copa’r tri mynydd cyntaf.

Ar ôl damweiniau erchyll ddoe, mi fethodd y gwibiwr o America Tyler Farrar (GRS) ddechrau, felly mae  cyfle i wibiwr eraill y ras gymryd mantais.

Dywedodd  enillydd y cymal ddoe, Luke Rowe (Sky):  “Dw i’n siomedig bod Cav heb ennill cymal, ond mi fydd cyfleoedd eraill”.

Mae’r ras yn dechrau yn Jedburgh fory yn ffiniau’r  Alban.