Ellie Simmonds
Trannoeth y seremoni gloi mae athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Prydain wedi bod yn gorymdeithio trwy ganol Llundain.
Roedd miloedd o bobol yn gwylio’r orymdaith yn nadreddu ei ffordd trwy ganol y ddinas ar gefn 21 cerbyd y prynhawn yma.
Roedd 700 o athletwyr yn rhan o’r orymdaith, a 90% o enillwyr medalau Prydain. Ymhlith yr enwau mawr oedd Mo Farah, Jessica Ennis, Chris Hoy a Victoria Pendleton, a’r sêr paralympaidd Ellie Simmonds, Hannah Cockcroft a Jonnie Peacock.
Y mezzo-soprano o Gastell Nedd, Katherine Jenkins, a ganodd Duw Gadwo’r Frenhines, tra bod Amy MacDonald o’r Alban wedi canu’r gân Pride.
Jessica Ennis
‘Anhygoel’
Cafodd nifer o wirfoddolwyr y Gemau docynnau arbennig er mwyn cael mynediad i’r Mall i weld diwedd yr orymdaith, a bu’r seiclwr Chris Hoy yn rhoi teyrnged i’r dorf.
“Mae hwn heddiw yn fwy ar gyfer y dorf, nid ar ein cyfer ni, achos nhw a wnaeth y Gemau.”
“Y gynulleidfa a greodd yr hwyl, nhw a gefnogodd yr athletwyr, nid yn unig yn y lleoliadau ond ar y strydoedd, yn y tafarnau, o flaen y sgriniau. Mae wedi bod yn anhygoel,” meddai’r Albanwr.
Dywedodd yr athletwraig Jessica Ennis fod “gweld torf fawr arall yn rhywbeth arbennig iawn.”