Joe Allen
Mae disgwyl i chwaraewr canol-cae Cymru Joe Allen fod yn holliach ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Serbia yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Bydd Allen yn teithio gyda’r garfan ddydd Llun.
Roedd Allen yn dioddef o firws ac fe gollodd y gêm yn erbyn Gwlad Belg nos Wener.
Gyda saith chwaraewr o’r tîm cyntaf wedi eu hanafu, bydd y newyddion am ffitrwydd Allen yn hwb i’r rheolwr Chris Coleman.
Bydd yr amddiffynnwr canol James Collins yn methu’r gêm ar ôl cael ei anfon o’r cae wrth i Gymru golli o 2-0 yn erbyn Gwlad Belg.
Mae’n annhebygol y bydd yna apêl yn erbyn y cerdyn coch gan y gallai colli’r apêl olygu y bydd Collins yn methu rhagor o gemau.