Andy Murray
Mae Andy Murray yn anelu am ei fuddugoliaeth gyntaf mewn un o’r prif bencampwriaethau heddiw.
Fe fydd yr Albanwr yn herio Novak Djokovic yn rownd derfynol Pencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau.
Curodd Murray Thomas Berdych yn y rownd gyn-derfynol yn Efrog Newydd ddydd Sadwrn.
Cafodd yr ornest arall rhwng Djokovic a David Ferrer ei gohirio am gyfnod oherwydd tywydd stormus, sy’n golygu bod y rownd derfynol yn cael ei chynnal ddiwrnod yn hwyrach.