Mae ffrwydrad mewn storfa arfau yng ngorllewin Twrci wedi lladd 25 o filwyr.

Dywedodd gweinidog coedwigaeth Twrci, Veysel Eroglu, fod y ffrwydrad wedi digwydd yn y rhan o’r storfa oedd yn cadw grenadau llaw.

Cafodd gweddillion y milwyr eu canfod y bore ma ar ôl i dân a achoswyd gan y ffrwydrad gael ei ddiffodd.

Dywedodd Veysel Eroglu mai damwain oedd achos tebygol y ffrwydrad yn nhalaith Afyonkarahisar, yn hytrach nag ymosodiad terfysgol.

“Cafodd grenâd llaw ei ollwng siŵr o fod,” meddai’r gweinidog wrth newyddiadurwyr.