Mae bwriad Llywodraeth Prydain i gwtogi ar fewnfudo yn cael effaith ar allu’r wlad i ddenu myfyrwyr, medd Aelodau Seneddol heddiw.

Yn ôl Pwyllgor Dethol ar fusnes a sgiliau mae cynnwys myfyrwyr o dramor o fewn ffigurau mudo yn “camarwain.”

Er bod y Cenhedloedd Unedig yn cynnwys myfyrwyr o fewn ffigurau mewnfudo, ni ddylai’r Llywodraeth deimlo bod rhaid iddyn nhw wneud yr un peth medd yr Aelodau Seneddol.

Mae ffigurau swyddogol yn awgrymu bod tua 216,000 o bobol yn mudo i Brydain bob blwyddyn, ac mae’r Llywodraeth wedi dweud eu bod nhw am gwtogi’r niferoedd i lai na 100,000 erbyn 2015.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor dethol , Adrian Bailey AS, fod “gwrthdaro” rhwng polisi’r Llywodraeth a’r dyhead i ddenu myfyrwyr o dramor i Brydain.

Mae 70 o benaethiaid prifysgolion wedi ysgrifennu at David Cameron i ddweud y byddai cynnwys myfyrwyr o dramor yn y ffigurau yn costio miliynau o bunnoedd i’r economi am y byddan nhw’n gorfod mynd i astudio mewn gwledydd eraill.

Mae un o bob deg myfyriwr ym Mhrydain yn dod o dramor, gan gynhyrchu tua £8 biliwn y flwyddyn i’r economi.